Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 21 Ebrill 2015
Amser: 09.00 -
11.04
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/2729
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Jocelyn Davies AC William Graham AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
Tystion: |
James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru Barrie Davies, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Andy Falleyn, Llywodraeth Cymru Sheena Hague, Llywodraeth Cymru Jeremy Patterson, Cyngor Sir Powys David Powell, Cyngor Sir Powys Tony Wilkins, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
|
Staff y Pwyllgor: |
Michael Kay (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Andrew Minnis (Ymchwilydd) Matthew Mortlock (Cynghorwr Arbenigol) Huw Vaughan Thomas (Cynghorwr Arbenigol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Nodwyd y papurau. Fodd bynnag, gofynnodd y Cadeirydd i'r Clercod drefnu amser yn rhaglen waith y Pwyllgor i drafod y llythyr ar y Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon gan y Cyfarwyddwr Addysg a Sgiliau, yn ogystal â'r llythyr gan Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y Trefniadau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
2.2 Dywedodd y Cadeirydd hefyd y byddai'n ymateb i'r Ysgrifennydd Parhaol yn Llywodraeth Cymru sydd wedi gofyn am eglurhad o sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gwario arian y grant sy'n ymwneud â GIG Cymru yn unol â pholisïau Gweinidogion Cymru.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Sheena Hague, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli Rhwydwaith, ac Andy Falleyn, Dirprwy Gyfarwyddwr, Darparu Isadeiledd, Llywodraeth Cymru ar yr ymchwiliad i werth am arian y buddsoddiad mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd.
3.2 Cytunodd James Price i anfon y wybodaeth a ganlyn at y Pwyllgor:
· ystyried yr awgrym bod gwallau yn y wybodaeth a ddarparwyd am yr A55 ar wefan Traffig Cymru;
· darparu nodyn ar faint o waith ffordd yn Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, gan gynnwys gwaith dros nos a'r amser ar gyfer darparu'r cynllun;
· darparu nodyn ar nifer y cwynion ynghylch gwaith ffordd, gan gynnwys canran y gwaith ffordd sy'n destun cwynion, a chyflwyno proses gofnodi fwy rheolaidd a ffurfiol;
· cadarnhau pryd y dechreuodd y gwaith o baratoi'r Strategaeth Gwaith Ffordd newydd a'r rhesymau pam ei fod wedi cymryd pedair blynedd i'w datblygu; ac
· ymchwilio i'r anawsterau diweddar yn sgil y gwaith ffordd yng ngogledd-ddwyrain Cymru a sut y mae hyn yn ymwneud â chydweithredu trawsffiniol gydag Awdurdodau Priffyrdd Lloegr, gan gynnwys yr Asiantaeth Priffyrdd / Highways England.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jeremy Patterson, Prif Weithredwr, Cyngor Sir Powys a David Powell, Cyfarwyddwr Strategol, Cyngor Sir Powys ynghyd â Tony Wilkins, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Barrie Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ariannol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ynghylch yr ymchwiliad i Reoli Ymadawiadau Cynnar.
4.2 Cytunodd Jeremy Patterson i anfon y wybodaeth a ganlyn at y Pwyllgor:
· Manylion am gyfanswm nifer yr ymadawiadau ers adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru gyda chostau cyfartalog a pha adrannau yr effeithiwyd arnynt;
· Cytuno i wirio ac anfon manylion am p'un a yw Cyngor Sir Powys wedi defnyddio gwasanaethau'r ymgynghorwyr a oedd yn gyn-gyflogeion a adawodd yr awdurdod o dan gynllun ymadael yn gynnar;
· Manylion am nifer y swyddi gwag cyfredol ynghyd â'r adrannau dan sylw, a
· Manylion am nifer y mynegiannau o ddiddordeb ar gyfer y rownd ddiwethaf o geisiadau ymadael yn gynanr.
4.3 Cytunodd Tony Wilkins i anfon y wybodaeth a ganlyn at y Pwyllgor:
· Manylion am nifer y swyddi gwag cyfredol ynghyd â'r adrannau dan sylw.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8.1 Oherwydd diffyg amser, ni allodd y Pwyllgor drafod y dystiolaeth a ddaeth i law. Fodd bynnag, bydd y clercod yn aildrefnu'r eitem hon ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.